Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2020
Amser:
09.05 -
12.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6448
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Andrew RT Davies AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Yr Athro Robert West, Coleg Prifysgol Llundain Yr Athro Susan Michie, Coleg Prifysgol Llundain Yr Athro David Heymann, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain Yr Athro Devi Sridhar, Prifysgol Caeredin |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Athro Robert West a'r Athro Susan Michie
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Robert West a'r Athro Susan Michie.
2.2 Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch a oes gan y cyhoedd ymdeimlad o ymgysylltu a grymuso i gymryd rhan yn yr ymateb i’r pandemig, cytunodd yr Athro Susan Michie i ddarparu gwybodaeth bellach am ymgynghori â dinasyddion a chyd-gynhyrchu atebion wedi'u teilwra.
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Athro David Heymann a'r Athro Devi Sridhar
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro David Heymann a'r Athro Devi Sridhar.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.